Wednesday, January 31, 2007

Plaid backs public servants' fight for jobs


Wrexham's government services ground to a halt today - the 450 workers at the Inland Revenue offices were out on strike. The hundreds working in the Department of Work and Pensions - dealing with benefits and pensions - were out on strike. The court staff in Bodhyfryd were out on strike.

All are members of the PCS union, which represents the civil servants. They were out on a one-day strike to highlight opposition to Gordon Brown's plans to axe 100,000 jobs. As many as 10,000 of those jobs will be in Wales - a disproportionate amount and many will hit poorer areas hard.

Many civil servants, despite the image, are low-paid workers dealing with key aspects of government... the Inland Revenue alone is bringing in many billions of income to the Treasury.

But Labour's obsession with privatisation and cutting public services means the civil service is being hacked. Standing up to Brown are the workers themselves with able support from other unions such as the RMT rail union.

Wrexham strikers attended a rally at the Miners' Institute on Grosvenor Road today to hear Steve Ryan, the local PCS rep, chair a meeting with Siôn Aled Owen, Plaid Cymru candidate for Wrexham in the coming Assembly elections, and Dave Bithell, the local RMT branch secretary. Both delivered powerful messages of support to the assembled strikers, with Dave reminding them of his bitter experiences of privatisation on the railways.

Plaid yn cefnogi brwydr gweision cyhoeddus am eu swyddi
Daeth gwasanaethau’r llywodraeth i stop yn Wrecsam heddiw - roedd y 450 o weithwyr yn swyddfeydd Cyllid y Wlad ar streic. Roedd y cannoedd sy’n gweithio yn yr Adran Gwaith a Phensiynau - sy’n ymdrin â budd-daliadau a phensiynau - ar streic. Roedd staff y llysoedd ym Modhyfryd ar streic.

Maent i gyd yn aelodau o Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS), sy’n cynrychioli gweision sifil. Roeddent ar streic ddiwrnod i dynnu sylw at y gwrthwynebiad i gynlluniau Gordon Brown i gael gwared â 100,000 o swyddi. Bydd cymaint â 10,000 o’r swyddi hynny yng Nghymru - nifer anghymesur fydd yn golygu y bydd yr ardaloedd tlotaf yn dioddef yn arbennig.

Mae llawer o weision sifil, er gwaethaf pob ymddangosiad i’r gwrthwyneb, yn gweithio am gyflogau isel ar waith allweddol i’r llywodraeth ... mae Cyllid y Wlad ei hun yn ennill biliynau o bunnau i’r Trysorlys.

Ond mae obsesiwn Llafur gyda phreifateiddio a thorri ar wasanaethau cyhoeddus yn golygu bod y gwasanaeth sifil yn wynebu cwtogi llym. Ond mae’r gweithwyr eu hunain, gyda chefnogaeth gadarn undebau eraill fel Undeb y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) yn benderfynol o herio Brown.

Daeth streicwyr Wrecsam i Sefydliad y Mwynwyr ar Ffordd Grosvenor heddiw i glywed Steve Ryan, cynrychiolydd lleol y PCS, yn cadeirio cyfarfod gyda Siôn Aled Owen, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Wrecsam yn etholiadau’r Cynulliad eleni, a Dave Bithell, ysgrifennydd cangen leol yr RMT. Cafwyd negeseuon o gefnogaeth rymus gan y ddau i’r streicwyr oedd wedi ymgynnull, gyda Dave yn eu hatgoffa o’i brofiadau chwerw adeg preifateiddio’r rheilffyrdd.

1 comment:

plaid wrecsam said...

Fel y gweli, dan ni wrthi'n sicrhau fod y blog yn ddwyieithog o hyn allan. Ymddiheuriadau am yr oedi.